P-04-425
: Tîm Cymru
Geiriad y
ddeiseb
Galwn ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i
geisio cytundeb â’r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol
ynghylch diwygio’r Siartr Olympaidd i gydnabod
gweinyddiaethau datganoledig Prydain Fawr yn eu rhinwedd eu hunain,
fel y gallai Llywodraeth Cymru sefydlu Pwyllgor Olympaidd
Cenedlaethol, ac fel y gallai ein hathletwyr gystadlu fel rhan o
Dîm Cymru yn y dyfodol.
Mae gennym doreth o athletwyr talentog yng Nghymru o ystyried maint
ein gwlad; oni fyddai’n wych gweld EIN hathletwyr NI ar y
podiwm gyda’u medal aur, wrth i anthem genedlaethol Cymru
gael ei chwarae’n uchel i’r byd a baner genedlaethol
Cymru (y Ddraig Goch) gael ei chwifio yn y cefndir? Ar hyn o bryd,
rhaid iddynt wrando ar anthem sy’n fwy cysylltiedig â
Lloegr a gweld baner nad yw’n cynnwys ein baner ni ond baneri
Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Felly, gadewch i ni ddod
â thîm ynghyd i gystadlu yn y Gemau Olympaidd nesaf, yn
Rio, yn 2016.
Prif
ddeisebydd: Russell
Gwilym Morris
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 2
Hydref 2012
Nifer y llofnodion: 208